Mae busnes teuluol sy’n cyflogi 100 o weithwyr wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru fod canolfannau garddio yn cael ail agor os ydyn nhw yn cadw o fewn rheolau pellter COVID-19.

Cyn i’r Prif Weinidog Mark Drakeford roddi caniatâd ar ddydd Gwener Mai 8, roedd Justin Williams, Rheolwr-Gyfarwyddwr Canolfan Arddio a Bwyty Fron Goch, ar gyrion Caernarfon, yn poeni y byddai llawer o stoc y Gwanwyn yn difetha’n llwyr.