Ar ôl wythnosau o ddisgwyl, mae yna bêl-droed ar y gorwel.

Nid yng Nghymru, nac yn Lloegr, ond bydd yna bêl-droed yn yr Almaen ar y penwythnos ac mae hynny’n ddigon i fi. Mae’r Bundesliga yn dychwelyd gyda chwe gêm ddydd Sadwrn, dwy ar ddydd Sul ac un arall nos Lun.

Bydd y Cymry sydd yn chwilio am unrhyw beth i ddilyn ar ôl wythnosau o newyn chwaraeon, yn cadw llygad barcud ar ddwy gêm yn benodol.