Sut ydych chi gyd? Eich teuluoedd a’ch ffrindiau yn cadw’n iach? Fi’n olreit, diolch am ofyn. Ydw, dw i wedi dioddef rhyw wobbly neu bump – yn ansicr beth i’w wneud ond hefyd yn cwestiynu pam rwy’n boddran bod eisiau ei wneud e. Ond dw i’n benderfynol o barhau i fod yn bositif. A phan mae lefel hwnnw yn isel, ordro pwys arall ohono ar safle Amazon (mae yna safleoedd siopa eraill y We, ond chi a fi yn gw’bod pa un ni’n iwso er bod ei iwso fe yn groes i unrhyw safiadau moesol sydd ’da ni)