Mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu gadael i Neil McEvoy alw ei blaid yn ‘Welsh National Party’, am eu bod yn ystyried y blaid newydd yn fygythiad iddi yn ei chadarnleoedd.

Dyna mae Neil McEvoy, Arweinydd y ‘WNP’, wedi ei ddweud yn dilyn tro pedol ddiweddar gan y Comisiwn Etholiadol tros enw ei blaid.