Yn anffodus, rwy’n gasglwr yn hytrach na gwaredwr.

Rwy’n cyhoeddi hyn ar ddechrau’r ysgrif rhag ofn bod y wraig yn ei ddarllen, achos erbyn diwedd y frawddeg gynta’ fydd hi wedi colli diddordeb… a nawr, alla i ddweud nad yw e’n ‘anffodus’ o gwbl.

Dw i’n gweld dim sens mewn taflu pethau sy’ wedi bod yn rhan annatod o’m mywyd. Boed nhw’n ddillad, tocynnau awyrennau, mapiau o lefydd fues i iddyn nhw, neu jyst darnau o bapur weithiau, ond â rhyw atgof arnyn nhw.