Doedd o ddim wedi meddwl mynd allan.

Vera Lynn oedd ar fai; Vera Lynn, a chwerthin, ac arogl cig yn crasu dros fflam yn ymestyn fel bunting dros y stryd. Agorodd Bill ei ddrws, a’i gwylio nhw i gyd yn chwerthin ac yn sgwrsio, pawb yn ddau fetr parchus oddi wrth ei gilydd, pawb wedi gwisgo’n ddel, pawb yn barchus ddathlu buddugoliaeth o’r hen ddyddiau. A dyma rywun yn galw: “Dewch rŵan, Bill! Byrgyr a chan o mild- ‘Da ni i gyd yn cadw at y rheolau!”