Gyda chymaint yn cysylltu i ddweud nad yden nhw’n gallu cael gafael ar gopi o Golwg o’r mannau arferol yn ystod y cyfnod hwn, fe aethon ni ati i ddod o hyd i ddatrysiad. 

Ydi wir, mae cynnwys cylchgrawn Golwg bellach ar gael ar y We am y tro cyntaf. 

Nawrte, ni wedi bod yn ofalus i fod yn deg iawn yn hyn o beth – nid cynnig i danysgrifwyr newydd yn unig yw hyn. I danysgrifwyr cyfredol, cadwch y gorchudd y mae’ch copi o Golwg yn cyrraedd ynddo, gan fod eich manylion mewngofnodi wedi nodi arno. (A chi ddim eisiau gorfod mynd drwy’r bin fel o’dd raid i fi neud. Rhy hwyr? Wel sori am hynny, ond cerwch i nôl e, fydd e werth e.) 

Os nad ydych yn danysgrifiwr, beth am ymuno nawr? Naill ai’n ddigidol yn unig neu drwy’r post ac yn ddigidol. Gallwch chi ganslo unrhyw bryd hefyd, er mai’r unig reswm teilwng alla i ddychmygu dros wneud hynny yw mynd nôl i gefnogi siopau lleol pan ddaw hyn oll i ben!

Be gewch chi ar golwg+ felly? Wel, holl gynnwys Golwg. Ac, yn y dyfodol, ambell eitem fonws hefyd, mae’n siŵr, gan nad oes prinder lle ar y We. 

Gan ein bod ni wedi blaenoriaethu hyn i ateb y galw yn y cyfnod cloi, byddwch chi hefyd, drwy fynd i golwg+, yn gallu cael cipolwg ar wefan golwg360 ar ei newydd wedd. 

Mae’r wefan hon yn rhannu platfform â chynllun Bro360 gan olygu y bydd holl wefannau 360 yn rhannu’r un dyluniad cyfoes – dyluniad sy’n haws ei ddarllen ar ddyfeisiau symudol. Bydd seilwaith technegol newydd y gwefannau hyn yn ein galluogi i gyflwyno gwasanaethau newydd yn y dyfodol agos.

Fersiwn arbrofol yw hon ar hyn o bryd. Gan gofio hynny, byddwn yn croesawu’ch adborth.

Felly, porwch, rhowch eich sylwadau, ac yn bwysicaf oll, os nad ydych wedi’n barod… tanysgrifiwch. Diolch.