Rheol ydy rheol.

Dim ’mod i’n ei wylio fo, i chi gael dallt. Dwi’n rhy brysur i fod yn eistedd wrth y ffenest yn gwylio pobol yn mynd a dod, a ph’run bynnag, does gen i ddim diddordeb. Ond mae rhywun yn sylwi fwy ar fynd a dod y dyddiau yma, pan mae pethau i fod yn dawel. Yn enwedig pan mae ffenest fy swyddfa yn edrych allan dros y stryd.

Mae o allan yn y car am 09.15.

Yn ôl ymhen awr.