Fel y rhan fwyaf o bobol, mae’r ffotograffydd Iestyn Hughes wedi bod yn hunan-ynysu. Ond er ei fod yn gaeth i’w gartref ar gyrion Aberystwyth, ni fu ei gamera yn segura. Bu’n manteisio ar dywydd braf Ebrill – y poethaf ar gofnod – i dynnu lluniau’r bywyd gwyllt yn ei ardd.