Ar ôl bron i chwarter canrif o weithio i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, mae Aled Jones wedi taflu’r dis ac ymrwymo’n llwyr i fyd y podlediadau.
Rhoddodd y gorau i’w swydd yn gynhyrchydd gyda’r BBC fis diwethaf, ac o hyn ymlaen ef yw Rheolwr-Gyfarwyddwr llawn amser gwefan Y Pod.
Yn ei hanfod, rhaglen radio ar y We yw podlediad, sy’n cynnwys sgyrsiau yn ymwneud â phwnc neu faes penodol.