Mi fydd rhaid cael ymchwiliad cyhoeddus pan fydd hyn ar ben. Dau ymchwiliad a dweud y gwir. Un ar gyfer Llywodraeth Y Deyrnas Unedig; y llall, ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Un nod fyddai, er hynny; dod i ddeall yn union beth sydd wedi digwydd a sut, gan wneud yn siŵr fod y gwersi’n cael eu dysgu.