Mae bellach wedi dod i’r amlwg bod dau fwrdd iechyd yng Nghymru wedi methu rhoi’r ffigyrau cywir ar gyfer y marwolaethau yn eu hysbytai.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth i’r amlwg bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (bwrdd y Gogledd) wedi oedi am fis cyn adrodd am 84 marwolaeth COVID-19.

A’r wythnos hon, mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda (bwrdd Dyfed) wedi methu ag adrodd 31 marwolaeth coronafeirws.