Diddorol oedd clywed Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig, Priti Patel, yn brolio wythnos diwethaf bod dwyn o siopau – neu shopliffto – wedi lleihau ers yr un cyfnod y llynedd. A hynny ar adeg pan fo’r rhan fwyaf o siopau ar gau yn sgil pandemig Covid-19, wrth gwrs…

Mewnwelediadau disglair fel hyn sy’n dangos cystal gwleidydd yw Ms Patel.