Mae teulu o Ddyffryn Conwy sy’n mynd â stondin o gwmpas rhai o drefi marchnad y gogledd wedi gweld twf yn eu busnes wrth i arferion siopa newid.

“Er bod y busnes [coronafeirws] yma’n ddigalon ofnadwy, mae o yn gwneud daioni i’n busnes ni mewn ffordd,” meddai Emyr Owen o Tatws Trading, “a dw i’n meddwl ma’ felly y bydd hi’n parhau am y bydd pobol yn siopa mewn ffordd wahanol. Mae un peth yn siŵr – fydd pethau byth yr un fath eto.”