Bu farw’r ymgyrchydd iaith a’r darlithydd adnabyddus Tedi Millward yr wythnos ddiwethaf.

Roedd yn enwog am fod yn diwtor Cymraeg i’r Tywysog Charles cyn yr Arwisgo yn 1969. Ond chwaraeodd Edward Glynne Millward ran “eithriadol o bwysig” yn yr ‘ymgyrch genedlaethol’ a thros godi statws y Gymraeg.