Mae’n “hynod o gywilyddus” bod nifer y carcharorion yng Nghymru wedi cynyddu eto, yn ôl un arbenigwr, a hynny ar adeg pan mae’r nifer wedi gostwng yn Lloegr er mwyn ceisio eu gwarchod rhag Covid-19.

Mae Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi treulio cryn amser yn ymchwilio i garchardai’r wlad hon.

A bellach mae wedi cyhoeddi adroddiad sy’n cynnig darlun o’r sefyllfa yng Nghymru dan gysgod yr argyfwng coronafeirws.