Ma’ gyda ni gath. Na, dyw hwnna ddim yn fanwl gywir. Y ‘ni’ sydd ddim yn fanwl gywir. Ma’ ’na gath yn y tŷ. S’da fe ddim byd i wneud â fi fel y cyfryw, m’ond gyda gweddill trigolion y tŷ.

Fe wedes i’n blwmp ac yn blaen ar ôl marwolaeth y llall, nad o’n i’n moyn un arall, gan mae fi, yn y pendraw, oedd yn gorfod ymwneud â hi pan oedd hi yn ei gwaeledd.

Roedd yna ddigon o gydymdeimlad, jyst fawr ddim o help. Felly pan godwyd y syniad o gael cath unwaith eto, fe wedes i ‘na’.