Mae’n debyg nad ydych chi, fel un o ddarllenwyr brwd Golwg, yn or-hoff o Dominic Cummings.

Wedi’r cyfan, bu’n gweithio, mewn gwahanol swyddi i’r Ceidwadwyr ers deunaw mlynedd – ac, ar hyn o bryd, mae wrth galon llywodraeth Boris Johnson.

Cyn hynny, bu’n ddisgybl mewn ysgol breswyl – cyn astudio Ancient and Modern History yng Ngholeg Caerwysg, yn Rhydychen (cafodd radd dosbarth cyntaf).

A’i enw yw Dominic, yn hytrach na Goronwy, Geraint, neu Gwydion.