Mae’n ymddangos mai tacteg Llywodraeth y Deyrnas Unedig ydi rhewi’r economi fel bod modd ei hadfywio’n weddol gyflym pan fydd argyfwng y feirws heibio.
Ond mi fydd llawer mwy yn cael ei golli na dim ond incwm; mae’n bosib y gallai’r digwyddiadau yma arwain at newid pellach, dinistriol yn ein bywydau ni, yn arbennig yng nghefn gwlad.
Mi all gyflymu’r broses o symud oddi wrth siopau bychain lleol at fusnesau mawr sy’n gwerthu tros y We ac yn delifro o ddrws i ddrws.