Fe fydd Americanwyr yn pleidleisio ddydd Mawrth (Tachwedd 5) i ddewis Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau. Fe fyddan nhw hefyd yn pleidleisio dros aelodau’r Gyngres, sy’n chwarae rhan allweddol wrth basio deddfau.

Dyma ganllaw i’r etholiad…

 

 

 

 

 

 

 

 

Pryd mae’r etholiad, a beth sy’n digwydd?

Mae’r etholiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth (Tachwedd 5). Bydd yr enillydd yn gwasanaethu am un tymor o bedair blynedd yn y Tŷ Gwyn, gan ddechrau ym mis Ionawr 2025.

Mae gan yr arlywydd y grym i basio rhai deddfau ar eu pen eu hunain, ond yn bennaf rhaid iddo ef neu hi weithio gyda’r Gyngres i basio deddfwriaeth.

Nid yr enillydd yw’r person sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau ar draws y wlad, o reidrwydd. Mae’r ddau ymgeisydd yn cystadlu i ennill pleidleisiau ar draws y 50 talaith.

Mae’r ffocws fel arfer ar ryw ddwsin o daleithiau lle gallai’r naill blaid neu’r llall ennill, sef y ‘swing states’.

Y Coleg Etholiadol yw’r sefydliad sy’n ethol Arlywydd a Dirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau bob pedair blynedd. Dydy dinasyddion yr Unol Daleithiau ddim yn ethol yr Arlywydd a’r Dirprwy Arlywydd yn uniongyrchol. Maen nhw’n ethol “etholwr”, sydd fel arfer yn ymrwymo i bleidleisio dros ymgeisydd penodol.

Mae “etholwyr” yn cael eu penodi i bob un o’r 50 talaith. Mae nifer yr “etholwyr” ym mhob talaith yn cyfateb i nifer aelodau’r Gyngres.  

Mae’n bosib i ymgeisydd ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau yn genedlaethol – fel y gwnaeth Hillary Clinton yn 2016 – ond cael eu trechu gan y Coleg Etholiadol beth bynnag.

Pwy yw’r ymgeiswyr?

Roedd y cyn-Arlywydd Donald Trump wedi ennill cefnogaeth y Blaid Weriniaethol, gan ddod yn ymgeisydd arlywyddol y blaid.

Y Dirprwy Arlywydd Kamala Harris yw ymgeisydd y Democratiaid, ar ôl i’r Arlywydd Joe Biden adael y ras.

Pwy sy’n arwain yn y polau piniwn?

Kamala Harris yw’r ceffyl blaen ers iddi ymuno â’r ras ym mis Gorffennaf, ond mae’r polau piniwn wedi agosáu yn y bythefnos ddiwethaf.

Yn fras, beth yw polisïau Harris a Trump?

Mae Kamala Harris yn dweud mai ei blaenoriaeth fyddai ceisio lleihau costau bwyd a thai i deuluoedd sy’n gweithio.

Mae hi wedi rhoi addewid i geisio gwahardd codi prisiau ar nwyddau, helpu prynwyr tai tro cyntaf, cynyddu’r cyflenwad tai a chodi’r isafswm cyflog. Mae hawliau erthyliad hefyd wedi bod yn ganolog i’w hymgyrch.

Addewid Trump yw “dod â chwyddiant i ben a gwneud America’n fforddiadwy eto”.

Mae hefyd wedi addo cyflwyno cyfraddau llog is, ac mae’n dweud y bydd alltudio mewnfudwyr anghyfreithlon yn lleddfu’r pwysau ar dai. Mae economegwyr yn rhybuddio y gallai ei addewid i osod trethi uwch ar fewnforion gynyddu prisiau.

Beth yw ymateb rhai o Gymry America?

Mae’r Athro Jerry Hunter yn academydd a llenor blaenllaw, sy’n hanu o dalaith Ohio yn wreiddiol.

Mae’n bryderus iawn am ddyfodol ei wlad enedigol, ond yn ffyddiog mai’r Democrat Kamala Harris ydy’r dewis cywir i ddod yn Arlywydd ar yr Unol Daleithiau.

“Mae’n frawychus meddwl y gallai Trump ennill,” meddai.

“Heb or-ddweud, credaf yn gryf mai Trump yw’r ymgeisydd arlywyddol mwyaf peryglus ers o leiaf ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.”

Mae hefyd yn hynod feirniadol o’i gyd-Americanwyr, a’r Cymry Americanaidd hynny sydd bellach yn cefnogi Donald Trump.

“Mae’r ffaith fod ganddo gymaint o gefnogaeth yn hynod ddigalon,” meddai.

“Mae’n ofnadwy wynebu’r ffaith bod cymaint o’m cyd-Americanwyr yn hoffi dyn sy’n ennill sylw a grym trwy hybu casineb, hiliaeth, ofn a chelwyddau.”

Mae nifer o aelodau Gweriniaethol y Gyngres yn rhan o gawcws “Ffrindiau Cymru”, sy’n dathlu treftadaeth Gymreig yn America ac yn hyrwyddo perthnasau diplomyddol rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru.

Ymhlith y rhain mae’r Cyngreswr Morgan Griffith o dalaith Virginia. Mae’n cynrychioli ardal ym mryniau Appalachia oedd yn hanesyddol yn gartref i ddiwydiant glo ffyniannus ddenodd nifer o ymfudwyr o Gymru i wladychu yno.

“Mae disgynyddion y mewnfudwyr hynny o Gymru’n bleidiol iawn tuag at yr Arlywydd Trump, yn bennaf oherwydd eu dirmyg tuag at bolisïau economaidd y Blaid Ddemocrataidd,” meddai Morgan Griffith.

“Mae’r Arlywydd Obama, yr Ymgeisydd Clinton, yr Arlywydd Biden a’r Ymgeisydd Harris wedi diystyru economïau ardaloedd sy’n cynhyrchu glo yn Appalachia mewn modd hynod ddidrugaredd.”

Mae’n mynnu hefyd fod “yr Arlywydd Trump wedi gweithio’n galed i helpu’r ardaloedd hyn”, gyda’i bolisïau ‘America’n gyntaf’ o ran masnach ac allforion.