Saracens 19–11 Gleision
Colli fu hanes y Gleision yn erbyn y Saracens ar gae artiffisial newydd Parc Allianz brynhawn Sul.
Hon oedd gêm gyntaf y tîm o gyffiniau Llundain ar y cae bob tywydd newydd, a bu bron i’r Gleision lastwreiddio’r dathliadau gyda buddugoliaeth, ond y Saeson aeth â hi yn y diwedd.
Cyfnewidiodd Ceri Sweeney a Nils Mordt gic gosb gynnar yr un cyn i faswr y Saracens ychwanegu ail i roi ei dîm ar y blaen. Ond y Cymry oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i gais yr wythwr, Robin Copeland.
Collodd y Gleision eu disgyblaeth yn yr ail hanner a bu rhaid i Sam Hobbs a Dafydd Hewitt ill dau dreulio amser yn y gell gosb.
Galluogodd hyn i’r Saracens daro nôl a gwnaethant hynny gyda dwy gic gosb arall o droed Mordt.
Caeodd eilydd faswr y Gleision, Gareth Davies, y bwlch i un pwynt saith munud o’r diwedd i roi gobaith i’w dîm ond caeodd James Short ben y mwdwl gyda chais cyntaf y Saeson funud cyn diwedd yr wyth deg.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision ar waelod grŵp 2.
.
Saracens
Cais: James Short 79’
Trosiad: Nils Mordt 79’
Ciciau Cosb: Nils Mordt 4’, 28’, 49’, 63’
.
Gleision
Cais: Robin Copeland 34’
Ciciau Cosb: Ceri Sweeney 6’, Gareth Davies 73’
Cardiau Melyn: Sam Hobbs 49’, Dafydd Hewitt 74’