Andy Murray
Colli oedd hanes yr Albanwr Andy Murray yn rownd olaf pencampwriaeth tenis agored Awstralia yn Melbouren.

Cafodd ei guro gan y Serbiad Novak Djokovic sydd bellach wedi ennill chwech camp lawn ac wedi llwyddo i fod y dyn cyntaf ers 46 o flynyddoedd i ennill y bencampwriaeth yma dair blynedd yn olynol.

Murray aeth a’r set gyntaf ond ar ôl tair awr a deugain munud o chwarae Djocovk aeth â hi 6-7 (2-7) 7-6 (7-3) 6-3 6-2.

Doedd Andy Murray ddim mewn tymer dda yn ystod y gêm.

Tynnwyd ei sylw gan bluen yn syrthio ar y cwrt ar un adeg, yna bu’n rhaid iddo gael triniaeth am swigod ar ei law ac fe gwynodd hefyd nad oedd y dyfarnwr yn atal y dyrfa rhag gwaeddi.