Jonathan Thomas oedd sgoriwr unig gais y gêm
Dreigiau 18 – 14 Y Gweilch
Y Dreigiau aeth a’r fuddugoliaeth yn y gêm ddarbi Gymreig yng nghwpan LV heno.
Roedd yr amgylchiadau’n anodd yn Rodney Parade, gyda’r gwynt a’r glaw yn effeithio ar safon y chwarae.
Brwydr gicio oedd yr hanner gyntaf, gyda Steffan Jones o’r Dreigiau a Mathew Morgan o’r Gweilch yn cicio tair cic gosb yr un i’w gwneud yn 9-9 ar yr hanner.
Y Dreigiau oedd a’r tîm mwyaf profiadol gyda nifer fawr o chwaraewyr y Gweilch yn eisiau oherwydd galwadau rhyngwladol.
Er hynny, roedd y chwaraewr mwyaf profiadol ar y cae yn rhengoedd yr ymwelwyr a Jonathan Thomas sgoriodd unig gais y gêm gan roi’r Gweilch ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner.
Er hynny, y droed oedd wastad yn mynd i ennill y gêm yma, a llwyddodd maswr y Dreigiau, Steffan Jones gyda dwy gic gosb bellach i roi buddugoliaeth haeddiannol i’r Dreigiau.
Y Timau:
Dreigiau: Hallam Amos; Matthew Pewtner, Adam Hughes, Jack Dixon, Mike Poole; Steffan Jones, Jonathan Evans; Nathan Williams, Sam Parry, Dan Way, Adam Jones, Rob Sidoli, Lewis Evans (c), Ieuan Jones, Nic Cudd.
Eilyddion: Hugh Gustafson, Aaron Coundley, Tim Ryan, Ian Nimmo, Jevon Groves, Rhys Downes, Dan Evans, Pat Leach.
Gweilch: Jamie Murphy; Tom Grabham, Jonathan Spratt, Ben John, Dafydd Howells; Matthew Morgan, Rhys Webb (c); Marc Thomas, Matthew Dwyer, Daniel Suter, Sam Williams, Rhodri Hughes, Jonathan Thomas, Morgan Allen, Arthur Ellis.
Eilyddion: Dmitri Arhip, Nicky Smith, Campbell Johnstone, Dan Baker, Rob Dudley-Jones, Tom Habberfield, Sam Davies, Nathan Edwards.