Blogiwr rygbi rheolaidd Golwg360, Owain Gwynedd, sy’n crynhoi ffaeleddau tîm Cymru yng nghyfres yr hydref ac oblygiadau hynny ar ymgyrch Gwpan y Byd 2015.
Mae cyfres yr hydref ar ben. Chwarae pedair, colli pedair a dim ond y gêm yn erbyn Awstralia fedrith unrhyw Gymro ddweud ei’n bod ni wedi chwarae yn hanner call ac yn haeddu ennill.
Ydi o unrhyw syndod bod Cymru wedi cael cyfres wael?
Ro’n i’n disgwyl i Gymru ennill o leiaf tair gêm, a gyda’r cochion yn llawn hyder byddai Seland Newydd yn cael ei gwthio yn agos. Ond, yn hanesyddol tydi Cymru ddim yn ymdopi â llwyddiant yn dda iawn ac efallai ei bod hi’n amser i bethau i fynd ychydig o’i le.
Yn 2005 a 2008 fe wnaeth Cymru, fel yn 2011, ennill y Gamp Lawn. Fel mae pawb yn gwybod aeth pethau o’i le am y ddwy neu dair blynedd ar ôl hynny a doedd Cymru ddim yn agos at ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Ar ôl gorffen yn bedwerydd yng Nghwpan y Byd, fe gafwyd y Gamp Lawn ac yna taith i Awstralia lle ddylai Cymru fod wedi ennill y gyfres. Yn barod, roedd Cymru wedi gallu cadw cysondeb yn ei chwarae am gyfnod hirach nag unrhyw dro yn fy nghof.
Ers colli i’r Ariannin yn y gêm gyntaf mae’r ddadl ffyrnig ynglŷn â pham bod dirywiad wedi bod yn y perfformiad?
Mae colli Warren Gatland, anafiadau i chwaraewyr allweddol (Adam Jones, Dan Lydiate), chwaraewyr ddim ar ei gore (Sam Warburton, Rhys Priestland), rhanbarthau yn wan a thactregau Rob Howley, i gyd yn bynciau sydd wedi cael eu trafod.
Yn syml, mae pob un wedi chwarae rhan ac arwain at gyfres siomedig lle mae Cymru wedi llithro i’r nawfed safle yn rhestr Y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol. Lle’r oedd rhywun yn gobeithio y byddai Cymru, yn dilyn cyfres lwyddiannus, yn bedwerydd ac wedi cael grŵp haws nag yr arfer yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2015.
Mae peidio gorffen yn bedwerydd, hyd yn oed yr wyth uchaf, wedi rhoi grŵp anodd i ni –
Grŵp A
Awstralia
Lloegr
Cymru
Ynysoedd y De 1
Enillydd y Gemau Ail Gyfle
Ydi, mae o’n anodd, ond ydi Awstralia a Lloegr yn taro ofn i’r galon? Na. Mae Cymru wedi curo Lloegr yn Twickenham ac ,efo dim ond hanner y tîm cyntaf, roedden nhw 30 o guro Awstralia. Dau dîm mae Cymru yn gallu eu curo.
I raddau rhaid anghofio am be sydd wedi digwydd dros y mis diwethaf. Rhaid ail ffocysu, cywiro gymaint o’r uchod â phosib, a symud ymlaen.
Mewn wyth wythnos mi fyddwn ni’n symud ymlaen i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad. A pha ffordd well i anghofio’r hydref nag ennill y Gamp Lawn – eto!!!