Frankie Dettori
Mae’r joci, Frankie Dettori, wedi ei wahardd rhag rasio ceffylau am chwe mis ar ôl ei gael yn euog o gymryd sylwedd gwaharddedig.

Mewn datganiad dywedodd ei gyfreithiwr, Christopher Stewart-Moore, bod yr Eidalwr 41 mlwydd oed yn “derbyn” penderfyniad France Galop i’w wahardd am chwe mis.

Roedd Dettori, sydd wedi ennill Pencampwr Joci Prydain tair gwaith, wedi cael prawf positif am gyffuriau pan oedd yn rasio yn Longchamp, Ffrainc ar 16 Medi. Roedd ganddo bedair ras yno’r diwrnod hwnnw.