Dan Lydiate
Bydd rheng ôl y Dreigiau yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor i ymuno a thîm Ewropeaidd sydd heb ei ddatgelu.

Mae Dan Lydiate yn chwaraewr allweddol i’w ranbarth ac roedd y Dreigiau yn awyddus i’w gadw o fewn eu rhengoedd.

Mae wedi bod yn chwarae i dîm cynta Rodney Parade ers 2006, gan oresgyn anaf gwddf difrifol yn 2007 wnaeth fygwth ei yrfa.

Ond eleni, enillodd y blaenasgwellwr Chwaraewr y Bencampwriaeth ym Mhencampwriaeth  RBS y Chwe Gwlad ar ôl derbyn 25% o  bledleisiau’r cyhoedd ar wefan y bencampwriaeth.

“Rydym yn amlwg yn siomedig iawn fod Danny wedi penderfynu gadael y Dreigiau,” meddai Cyfarwyddwr Rygbi y Dreigiau, Rob Beale. “Mae wedi bod yn rhan allweddol o’r tîm ers sawl blwyddyn ac mae’n berson poblogaidd gyda chwaraewyr a’r hyfforddwyr.”

“Gallaf sicrhau ein cefnogwyr ein bod ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw Dan, ond allwn ni ddim cystadlu â’r cynigion sydd wedi cael eu rhoi ar y bwrdd.”

Ni fydd unrhyw sylw pellach gan Dan Lydiate ar hyn o bryd.