Stadiwm y Mileniwm
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi creu bwrdd newydd gyda’r rhanbarthau er mwyn creu patrwm newydd ar gyfer y gêm.

Fe fydd pedwar cynrychiolydd o’r Undeb a phedwar cynrychiolydd o’r rhanbarthau gyda chadeirydd annibynnol.

Y bwriad yw creu trefn gyda chytundebau cyfreithiol er mwyn diogelu dyfodol y gêm yn rhanbarthol a chenedlaethol.

Unoliaeth pwrpas

“R’yn ni’n dod at ein gilydd gydag unoliaeth pwrpas,” meddai Prif Weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, ar Radio Wales.

“Fe fydd yna ddogfen sy’n clymu pawb yn gyfreithiol ac fe fydd honno’n mynd â ni ymlaen mewn partneriaeth.”

Fe amddiffynnodd yr Undeb yn erbyn cwynion y rhanbarthau am ddiffyg cefnogaeth, gan ddweud nad oedd pwynt tywallt arian i mewn i drefn sydd heb fod yn gweithio.