Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi gwahodd y gêm fawr yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd i Gaerdydd.

Lloegr sy’n cynnal Cwpan y Byd 2015 ond dywedodd Roger Lewis fod y Trysorlys yn Llundain yn helpu i warantu’r gost o gynnal y gystadleuaeth “ac mae Cymru dal yn rhan o’r Deyrnas Gyfunol.”

Roedd Cymru wedi cefnogi cais Lloegr i gynnal y gystadleuaeth ac mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd wedi cynnig £1.4m tuag at y gost o gynnal gemau yng Nghaerdydd.

“Dwi’n siŵr byddai Lloegr yn dymuno chwarae yn stadiwm rygbi gorau’r byd,” meddai Roger Lewis, ond mae hyfforddwr y Saeson, Stuart Lancaster, wedi mynnu mai ar faes Twickenham yr hoffai ef weld Lloegr yn wynebu Cymru.

Tra bod Cymru wedi colli unwaith eto i’r Walabîs ddydd Sadwrn llwyddodd Lloegr i roi crasfa annisgwyl i Seland Newydd yn Twickenham.

Mae Cymru, Lloegr ac Awstralia gyda’i gilydd yng ‘ngrŵp angau’ Cwpan y Byd 2015 ac nid yw lleoliadau’r gemau wedi cael eu penderfynu eto.

Prop o Seland Newydd yn ymuno â’r Gweilch

Mae’r Gweilch wedi arwyddo’r prop Campbell Johnstone tan ddiwedd y tymor ar ôl i dri phrop pen tynn y rhanbarth gael eu hanafu.

Chwaraeodd Johnstone dair gwaith dros Seland Newydd a bu’n chwarae gyda’r clwb o gornel Basgaidd Ffrainc, Biarritz, ers 2008.