Clwb pêl-droed y Barri
Mae cartref un o glybiau pêl-droed mwyaf llwyddiannus Cymru ar werth.
Dominyddodd clwb pêl-droed Tref y Barri gynghrair Cymru a chwpan Cymru yn niwedd yr 1990au a dechrau’r mileniwm, ac mae cartref y clwb, y bar a’r stafelloedd newid ar werth am £170,000.
Ond nid yw cae pêl-droed Parc Jenner, sy’n eiddo i Gyngor Bro Morgannwg, ar werth.
Mae’r cynghorydd lleol Ian Johnson, a fu’n olygydd ar raglen a gwefan y clwb, yn dweud ei fod yn gobeithio daw rhywun i’w brynu “a fydd yn barod i gyd-weithio gyda chlwb pêl-droed y Barri er mwyn codi’r clwb i’r brig unwaith eto.”
“Mae’r clwb wedi bod ar werth sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf ac mae angen sefydlogrwydd,” meddai.
“Mae hanes arbennig gan glwb y Barri, ac eleni yw blwyddyn ei ganmlwyddiant.
“Hon yw tref fwyaf Cymru siŵr o fod, a thref bêl-droed yw hi, ac mae’n haeddu clwb ar y lefel uchaf,” meddai Ian Johnson.
Mae Tref y Barri ar hyn o bryd yn bedwerydd yn adran gyntaf Cynghrair Cymru, oddi tan Uwchgynghrair Cymru, a dydd Sadwrn mae gan y clwb gêm ddarbi lleol yng Nghwpan Cymru yn erbyn Ely Rangers o Wenfo.