Y capten Ryan Jones
Mae capten Cymru Sam Warburton a’r maswr Rhys Priestland wedi cael eu symud i’r fainc wrth i Robert Howley gyflwyno wyth newid i’w dîm ar gyfer Samoa nos Wener.
Mae Ryan Jones yn dychwelyd ac yn gapten ar y tîm, tra bod maswr y Gweilch Dan Biggar yn dechrau yn faswr, a Mike Phillips yn fewnwr.
Mae’r canolwr Scott Williams wedi ei symud i’r fainc ac mae Ashley Beck o’r Gweilch yn cymryd ei le, wrth ochr Jamie Roberts sydd wedi gwella ar ôl cael cnoc i’w ben yn erbyn yr Ariannin. Nid yw Jonathan Davies wedi medru ymarfer yn llawn wythnos yma eto o achos anaf i gesail y forddwyd ac nid yw ef wedi’i gynnwys yn y 23.
Mae Gethin Jenkins ymhlith yr eilyddion y tro yma gyda Paul James yn cael cyfle i ddechrau yn y crys rhif 1.
Mae Bradley Davies yn dechrau yn yr ail reng, tra bod Alun Wyn Jones yn colli gweddill gemau’r hydref o achos anaf i’w ysgwydd.
Richard Hibbard sy’n dechrau yn fachwr a Ken Owens fydd yn eilydd iddo ar y fainc. Does dim lle yn y 23 i gyn-gapten Cymru, Matthew Rees.
Dyma’r tîm llawn ar gyfer gêm Samoa nos Wener:
Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Ashley Beck, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Mike Phillips, Paul James, Richard Hibbard, Aaron Jarvis, Bradley Davies, Ian Evans, Ryan Jones (capten), Justin Tipuric, Toby Faletau.
Eilyddion: Ken Owens, Gethin Jenkins, Scott Andrews, Luke Charteris, Sam Warburton, Tavis Knoyle, Rhys Priestland, Scott Williams.