Jamie Roberts
Curo Samoa nos Wener yw’r unig nod i Gymru ar ôl eu perfformiad siomedig yn erbyn yr Ariannin.
Dyna farn yr hyfforddwr amddiffyn, Shaun Edwards, wrth iddo annog y chwaraewyr mwya’ profiadol i yrru’r tîm yn ei flaen.
Mewn cynhadledd i’r wasg fe rybuddiodd y byddai Samoa yn fygythiad i Gymru, gyda chwaraewyr cry’ a sgrym gadarn ond roedd yn pwysleisio’r angen i Gymru eu hunain berfformio.
“Rhaid i ni gael trefn ar ein gêm ein hunain a thanio nos Wener,” meddai. “Ein hunig nod ar hyn o bryd yw curo Samoa.”
Mae yna bryderon tros ffitrwydd un neu ddau o chwaraewyr Cymru – ac yn ôl Shaun Edwards, roedd y ddau ganolwr, Jamie Roberts a Jonathan Davies, yn allweddol i’r ymdrech amddiffynnol.
‘Colli’r frwydr am safleoedd da’
Roedd yn rhoi’r bai ar y gweir gan yr Ariannin ar fethiant Cymru i ennill safleoedd da ar y cae – dyna sy’n hanfodol yn y gêm fodern, meddai.
Roedd hynny’n cynnwys colli nifer o frwydrau yn yr awyr – yn ôl Edwards, mae ennill y rheiny lawn mor bwysig â chael ciciau cosb i wella safle.
Roedd hefyd yn pwysleisio bod yr Ariannin wedi dod i mewn i’r gêm ar ôl cyfres o gemau rhyngwladol caled, tra bod chwaraewyr Cymru wedi paratoi trwy gemau clwb.