Mae hyfforddwr Cymru Robert Howley wedi gohirio cyhoeddi ei dîm i gwrdd â Samoa nos Wener o achos anafiadau i chwaraewyr allweddol.

Roedd disgwyl i’r tîm gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth ond mae’r tîm hyfforddi yn cadw llygad ar sawl chwaraewr yn dilyn y golled siomedig i’r Ariannin.

Mae Alun Wyn Jones heddiw’n cael sgan a fydd yn dangos pa mor ddifrifol yw’r anaf i’w ysgwydd, ac mae Jamie Roberts yn cael seibiant gorfodol ar ôl cael cnoc i’w ben.

Mae Ryan Jones yn gobeithio dychwelyd i ymarfer gyda’r garfan yn ystod yr wythnos ar ôl cael anaf i’w ysgwydd, ac mae’r canolwr Ashley Beck yn debygol o fod yn holliach ar ôl anaf i’w glun.

Mae’r tîm hyfforddi hefyd yn cadw llygad ar ganolwr arall, Jonathan Davies, sy’n dioddef ag anaf i gesail y forddwyd.

Mae ail-reng Perpignan, Luke Charteris, yn ymarfer gyda Chymru wythnos yma ar ôl chwarae yng nghynghrair Ffrainc dros y penwythnos.

Mae pwysau mawr ar Robert Howley yn dilyn y perfformiad di-fflach yn erbyn yr Ariannin. Mae cyn-gapten Cymru, Paul Thorburn, wedi beirniadu tactegau’r hyfforddwr, a dywedodd cyn-faswr Cymru Jonathan Davies fod Cymru wedi edrych yn gysglyd.