Andy Legg
Mae cyn-chwaraewr Cymru Andy Legg wedi ymddiswyddo fel rheolwr clwb pêl-droed Llanelli.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r Cochion golli 1-6 adref ar faes Stebonheath yn erbyn Cei Cona ddoe.
Oddi ar y cae mae Llanelli wedi bod yn wynebu trafferthion ariannol a cheisiodd y dyn treth ddwyn achos llys yn eu herbyn cyn i’r clwb dalu eu dyledion ym mis Medi.
Dywedodd Andy Legg fod “pethau wedi bod yn anodd yma dros y misoedd diwethaf ond dwi’n dal i garu’r clwb a does dim bwriad gen i droi fy nghefn ar Lanelli os oes modd i mi helpu .”
Cafodd Andy Legg yrfa hir fel chwaraewr a chwaraeodd dros Abertawe a Chaerdydd, a chwe gwaith dros Gymru. Bu’n rheolwr ar Lanelli ers 2009.