Gleision 14–22 Toulon
Colli fu hanes y Gleision brynhawn Sul, am yr ail waith y tymor hwn yng Ngrŵp 6 Cwpan Heineken.
Ar ôl colli o drwch blewyn oddi cartref yn Sale yr wythnos diwethaf cafodd y rhanbarth o Gymru eu trechu eto’r wythnos hon wrth i Toulon ymweld â Pharc yr Arfau.
Hanner Cyntaf
Cafodd y tîm cartref ddechrau delfrydol i’r gêm wrth i Leigh Halfpenny groesi am gais wedi dim ond munud o chwarae. Yn anffodus, methodd y cefnwr a throsi ei ymdrech ei hun ond dechrau da i’r Gleision serch hynny.
Troed ddibynadwy Jonny Wilkinson a ddaeth a Toulon yn ôl i’r gêm ac roedd y tîm o dde Ffrainc ar y blaen wedi chwarter awr diolch i ddwy gic gosb lwyddiannus.
Methodd Wilkinson a Halfpenny gic yr un wedi hynny ond y Gleision oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i lwyddiant Halfpenny ddau funud cyn y chwiban, 8-6 ar yr hanner,
Ail Hanner
Roedd Toulon yn ôl ar y blaen funud wedi’r ail ddechrau diolch eto i droed Wilkinson a methodd Halfpenny gyfle i daro’n ôl cyn i Wilkinson ymestyn mantais Toulon gyda phedwaredd cic gosb.
Roedd y bwlch yn ôl i un pwynt toc wedi’r awr ond yna daeth digwyddiad tyngedfennol y gêm – cais i Toulon. Yr eilydd brop, Carl Hayman, oedd yn gyfrifol am y bylchiad gwreiddiol a’r blaenasgellwr, Steffon Armitage, a groesodd o dan y pyst.
Wyth pwynt ynddi felly yn dilyn trosiad Wilkinson ond roedd hi’n ymddangos fod y Gleision yn mynd i gipio pwynt bonws o leiaf pan drosodd Halfpenny dri phwynt arall chwe munud o’r diwedd.
Ond doedd dim hyd yn oed pwynt i fod wrth i Wilkinson gicio cic gosb arall yn y munudau olaf. Does fawr o syndod felly fod y Gleision yn gorwedd yng ngwaelodion Grŵp 6, wyth pwynt tu ôl i Toulon wedi dim ond dwy gêm.
.
Gleision
Cais: Leigh Halfpenny 2’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 39’, 61’, 73’
Toulon
Cais: Steffon Armitage 63’
Trosiad: Jonny Wilkinson 64’
Ciciau Cosb: Jonny Wilkinson 11’, 15’, 42’, 56’, 75’