Mae’r ceffyl Frankel, a enillodd ei 14eg ras o’r bron ddoe yn Ascot – ei ras olaf cyn ymddeol – wedi ennyn edmygedd ar draws y byd.

Fe ddechreuodd ei ras olaf yn eithaf ara’ deg, ac roedd ei edmygwyr yn pryderu na fyddai’n  perfformio’n dda ar dir oedd braidd yn feddal ar ôl yr holl law diweddar.

Ond fe lwyddodd i ennill y ras yn gyffyrddus gan ddenu bonllefau o gymeradwyaeth oddi wrth y dorf oedd wedi dod i’w weld yn rasio am y tro olaf.

Mae wedi ennill bron i £3 miliwn yn ystod ei yrfa rasio. Y gred yw ei fod yn awr yn werth £100 miliwn fel stalwyn.

Dywedodd ei hyfforddwr Syr Henry Cecil mai Frankel oedd y ceffyl gorau yr oedd erioed wedi ei gael, “ a’r gorau dwi wedi ei weld.”

Dywedodd y joci Frankie Dettori fod Frankel yn geffyl anhygoel. “Mae cael anifail mor brydferth yn ein camp yn wych,” meddai.

Mi wnaeth y cyflwynydd Claire Balding gymharu Frankel â’r athletwr Olympaidd Usain Bolt. “Dwi’n teimlo’n hi’n fraint fy mod wedi cael ei weld yn rasio,” meddai. “Yn sicr, dwi erioed wedi gweld cystal ceffyl.”