Bydd Tonderai Chavhanga yn dychwelyd a’r ôl saith mis i wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Dreigiau y tymor hwn ar yr asgell yn erbyn Bayonne yng nghystadleuaeth Cwpan Amlin yn Rodney Parade yfory.

Bydd wyneb cyfarwydd yn nhîm yr ymwelwyr o Ffrainc yn gwisgo’r crys rhif naw ar faes Rodney Parade.  Fe fydd gofyn i’r Dreigiau fod yn wyliadwrus o Mike Phillips.

“Mae Mike bron a bod yn flaen asgellwr ychwanegol i Bayonne, felly bydd yn rhaid i ni fod yn dynn o amgylch y sgarmes,’’ meddai Tom Brown, blaen asgellwr y Dreigiau.

Bydd Tom Prydie yn symud i safle’r cefnwr yn lle Dan Evans, tra bod Andy Tuilagi a Jonathan Evans yn dechrau i’r Dreigiau.

Bydd Owen Evans yn cael ei gêm gynta’ i’r rhanbarth, ac hefyd bydd Steve Jones yn dychwelyd i’r tîm wedi iddo golli’r gêm yr wythnos ddiwethaf.

Tîm y Dreigiau:

Olwyr – Tom Prydie, Will Harries, Adam Hughes, Andy Tuilagi, Tonderai Chavhanga, Lewis Robling a Jonathan Evans.

Blaenwyr – Owen Evans, Steve Jones, Nathan Buck, Ian Nimmo, Rob Sidoli, Tom Brown, Lewis Evans (Capten) a Toby Faletau.

Eilyddion – Sam Parry, Nathan Williams, Dan Way, Adam Jones, Jevon Groves, Liam Davies, Steffan Jones a Pat Leach.