Wedi’r golled i Clermont Auvergne y penwythnos diwethaf, mae gan y Scarlets lawer o bryderon am anafiadau i chwaraewyr allweddol wrth iddyn nhw wynebu Leinster.

Cafodd Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams, Aaron Shingler a chapten y Sgarlets Rob McCusker eu hanafu yn Ffrainc, ond mae’r rhan fwyaf wedi gwella mewn da bryd ar gyfer yr ornest yn erbyn y Gwyddelod.

Er hynny ni fydd y canolwr rhyngwladol Jon Davies yn chwarae oherwydd anaf i’w gesail y forddwyd.

Fe fydd y clo o’r Ariannin Tomás Vallejos yn cael y cyfle i wneud ei ymddangosiad cyntaf mewn crys Scarlets yng Nghwpan Heineken wedi i ‘r clo Sione Timani anafu ei ben-glin.

Yn gyffredinol, mae’n gêm fawr i’r Sgarlets, ac yn sicr fe fydd rhaid iddyn nhw ei ennill er mwyn cadw eu gobeithion yn fyw yn Ewrop eleni.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Liam Williams, George North, Gareth Maule, Scott Williams, Andy Fenby, Rhys Priestland a Tavis Knoyle.

Blaenwyr – Phil John, Matthew Rees, Samson Lee, George Earle, Johan Snyman, Aaron Shingler, Josh Turnbull a Rob McCusker (Capten).

Eilyddion – Ken Owens, Shaun Hopkins, Deacon Manu, Tomás Vallejos, Johnathan Edwards, Gareth Davies, Aled Thomas a Morgan Stoddart.