Roger Lewis
Mae Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi dweud bod y pedwar rhanbarth rygbi wedi gwrthod y cyfle i roi cytundebau canolog i sêr Cymru fyddai wedu eu helpu i’w cadw yn y wlad.

Daeth i’r fei bod  y cynnig wedi ei wrthod gan Leision Caerdydd, Dreigiau Casnewydd, Y Gweilch a’r Scarlets fis Awst diwetha’.

Mae’r rhanbarthau wedi gweld sawl chwaraewr fel Mike Phillips, James Hook, Gethin Jenkins a Luke Charteris yn gadael am Ffrainc.  Y chwaraewyr diweddaraf i gael eu cysylltu gyda chlybiau tramor yw Jamie Roberts a Dan Lydiate.

Dywedodd Lewis mewn llythyr agored a anfonwyd i rygbi Cymru, a gafodd ei gyhoeddi heddiw gan The Western Mail, bod modd defnyddio’r £6.2 miliwn a roddwyd i’r rhanbarthau am ryddhau chwaraewyr rhyngwladol, i ariannu cytundebau canolog.

Mae’r £6.2 miliwn yna’n bron i hanner y £15 miliwn mae’r rhanbarthau yn ei dderbyn yn flynyddol gan Undeb Rygbi Cymru.

Cytundebau canolog?

Gyda’r cytundebau canolog, dywedodd Lewis bod modd i Undeb Rygbi Cymru reoli cyflogau chwaraewyr a thrafod yn uniongyrchol gydag unrhyw chwaraewr sydd eisiau gadael Cymru.

Er I’r cynnig gael ei wrthod, roedd Lewis yn mynnu yn ei lythyr fod yna beth newyddion da.

‘‘Gallaf ddweud ein bod yn agos i greu partneriaeth newydd gyda’r pedwar rhanbarth sy’n seiliedig ar bob un ohonom yn gweithio gyda’n gilydd i ddatrys yr holl broblemau.  Rydym am ganolbwyntio ar ddyfodol y rhanbarthau,’’ meddai.