Bydd hyfforddwr y Scarlets yn newid ei dîm ar gyfer y gêm yn erbyn Treviso yfory, yn dilyn y golled ym Mharc y Scarlets i’r Gweilch nos Wener ddiwethaf.

‘‘Bydd rhai newidiadau, rwyf yn ceisio rhoi cyfle i bawb yn y garfan,’’ meddai Simon Easterby.

Mae’r clo o Dde Affrica, Joe Snyman wedi cyrraedd rhanbarth y Gorllewin yr wythnos yma, ond ni fydd yn cael ei gynnwys yng ngharfan y Sgarlets eto.

Er i Fois y Sosban golli eu gêm ddiwethaf, roedd y cyfuniad o’r rheng-ôl a oedd yn cynnwys Aron Shingler, Josh Turnbull a Rob McCusker wedi creu argraff addawol eto.

Meddai Josh Turnbull: ‘‘Rydym am gadw’r bêl ar dir y chwarae mor hir â phosib, ac am ledaenu’r bêl ar draws y cae.  Mae Aron yn defnyddio ei gyflymder i gario’r bêl i dir agored.  Yna, mae Rob yn gwneud y gwaith caled ar lawr ac yn arbennig yn y sgarmes.  Rwy’n tueddu i ymfalchïo fy hun o fod yn gorfforol yn ardal y dacl.  Rydym yn gweithio’n dda gyda’n gilydd.”