John Terry
Mae cyn-gapten Lloegr, John Terry wedi cael dirwy a gwaharddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.
Penderfynodd y Gymdeithas fod capten Chelsea wedi sarhau amddiffynnwr QPR, Anton Ferdinand, a’i fod wedi ymddwyn yn sarhaus.
Ar bedwerydd diwrnod y gwrandawiad yn Wembley, cafodd John Terry ddirwy o £220,000 a gwaharddiad am bedair gêm.
Fe’i cafwyd yn ddieuog o’r un drosedd gan Lys Ynadon Westminster ym mis Gorffennaf, ond penderfynodd y Gymdeithas fod yna ddigon o dystiolaeth i’w ddisgyblu.
Mae ganddo 14 diwrnod i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Cyfaddefodd John Terry ei fod e wedi defnyddio’r gair “du” a’i fod wedi rhegi ar Ferdinand, ond honnodd ei fod yn ail-adrodd geiriau a ddefnyddiodd Ferdinand i’w sarhau e.
Mae John Terry wedi cyhoeddi ers yr achos llys ei fod yn ymddeol o bêl-droed ryngwladol.
Ceisiodd cyfreithwyr y chwaraewr ddadlau bod y rheithfarn yn y llys yn ddigon o dystiolaeth nad oedd yn euog o’r drosedd ac na allai’r Gymdeithas ei ddisgyblu oherwydd hynny.
Ond dywedodd y Gymdeithas eu bod yn ei ddisgyblu am resymau ychydig yn wahanol.
Cafodd ymosodwr Lerpwl, Luis Suarez waharddiad am wyth gêm y tymor diwethaf am drosedd tebyg yn erbyn amddiffynnwr Manchester United, Patrice Evra.
Chafodd e mo’i ddisgyblu gan nad oedd y Gymdeithas yn credu bod defnyddio iaith hiliol yn mynd yn groes i’w rheolau.