Mae gôl geidwad yr Elyrch, Michael Vorm, wedi arwyddo cytundeb o bedair blynedd i aros gydag Abertawe tan 2016.
Mae’n hwb mawr i’r Elyrch ar ôl i’r chwaraewr 28 oed gael ei gysylltu â Lerpwl.
‘‘Rwy’n mwynhau fy amser yma, a dyma un o’r rhesymau pam wnes i gytuno i’r estyniad,’’ meddai Vorm wrth wefan swyddogol y clwb.
‘‘Gallaf weld pethau’n gwella yma. Mae gan y clwb ddyfodol disglair, mae’r clwb wedi arwyddo llawer o’i sêr am gyfnod hir sy’n wych,’’ ychwanegodd Vorm.