Connacht 11–24 Scarlets
Davies - ei gais yn sicrhau pwynt bonws
Mae dechrau perffaith y Scarlets i’r tymor yn y RaboDirect Pro12 yn parhau yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Connacht ar Faes Chwarae Galway brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd y cefnwr ifanc, Jordan Williams, ddau gais wrth i’r rhanbarth o Gymru ennill y gêm mewn chwarter awr ffrwydrol ar ddechrau’r ail hanner. Yna, sicrhaodd Jonathan Davies y pwynt bonws i Fois y Sosban gyda phedwerydd cais yn yr eiliadau olaf.
Methodd Rhys Priestland gyfle i gicio’r Scarlets ar y blaen yn gynnar cyn i Miah Nikora wneud hynny i’r tîm cartref wedi deg munud.
Ac roedd y Gwyddelod wyth pwynt ar y blaen erbyn hanner amser diolch i gais Eoin Griffin yn yr eiliadau olaf, y canolwr yn tirio wedi gwaith da gan y blaenwyr.
Ond dychwelodd y Scarlets i’r cae ar dân wedi’r egwyl gan sgorio tri chais mewn deuddeg munud.
Creodd George North y cyntaf i’r cefnwr deunaw oed, Jordan Williams, gyda rhediad cryf cyn tirio’r ail ei hun funudau yn ddiweddarach.
Yna, ychwanegodd Williams ei ail ef a thrydedd ei dîm gyda rhediad twyllodrus. Ond doedd Priestland ddim yn gwisgo’i esgidiau cicio a dim ond un o’r tri chais a gafodd ei drosi felly roedd Connacht dal yn y gêm.
Fe wnaeth Nikora gau’r bwlch i’r Gwyddelod gyda chic gosb ac wrth i’r chwiban olaf agosáu fe wnaeth y tîm cartref bwyso’n drwm wrth chwilio am y cais i ennill y gêm. Ond y Scarlets yn hytrach a gafodd y gair olaf wrth i Jonathan Davies ryng-gipio’r bêl yn yr eiliadau olaf cyn sgorio i sicrhau’r pwynt bonws i’r Cymry.
Ychwanegodd Williams drosiad at ei ddau gais wrth i’r Scarlets ennill o 24-11. Mae’r canlyniad yn eu codi yn ôl i frig tabl y Pro12 wedi i Ulster eu di sodli dros nos.
Connacht
Cais: Eoin Griffin 39’
Ciciau Cosb: Miah Nikora 10’, 61’
Scarlets
Ceisiau: Jordan Williams 41’, 52’, George North 49’, Jonathan Davies 80’
Trosiadau: Rhys Priestland 42’, Jordan Williams 80’