John Terry
Wnaeth Anton Ferdinand ddim ysgwyd llaw efo John Terry ar gychwyn y gêm rhwng QPR a Chelsea ar gae Loftus Road y prynhawn yma.
Ym mis Gorffennaf cafwyd John Terry, capten Chelsea, yn ddi-euog o gamdrin Ferdinand yn hiliol ond mae yn dal i wynebu, a gwadu cyhuddiad cyffelyb gan yr FA.
Roedd Ashley Cole yn dyst ar gyfer yr amddiffyniad yn ystod yr achos.
Mae’n draddodiad bod chwaraewyr yn ysgwyd llaw cyn unrhyw gêm bêl droed ac roedd yr FA wedi rhyddhau datganiad yn mynnu y buasai chwaraewyr y ddau dîm yn gwneud hynny y tro yma.
Roedd y rheolwyr, Mark Hughes a Roberto di Matteo, wedi dweud y buasai’r ddau glwb yn parchu cais yr FA ond ychwanegodd Mark Hughes o QPR y buasai yn caniatau i’w chwaraewyr benderfynu yn y fan a’r lle yr hyn yr oeddyn nhw am ei wneud.
Ychwanegodd y dylid rhoi’r gorau i’r arferiad yma gan fod y damcaniaethau am beth fyddai yn digwydd wedi bod yn ‘gysgod hurt’ wrth baratoi am y gêm ei hun.