Mae seithfed cymal y Tour of Britain yn cael ei gynnal rhwng Barnstaple a Dartmouth yn Nyfnaint heddiw, sef taith o 107.5 milltir.
Dyma filltiroedd sgwâr daliwr y crys aur, Jonathan Tiernan-Locke fydd wrth ei fodd yn rasio o flaen ei deulu a’i ffrindiau ar ôl yr ymdrech galed ar fynydd Caerffili ddoe.
Mae’r Cymro Owain Doull o Lanisien yng Nghaerdydd yn edrych ymlaen at ddiwedd y ras.
“Rwyf wedi enjoio, ond mae wedi bod yn galed hefyd. Dwi wrth fy modd bod fi wedi rasio trwy Gymru,”meddai. “Roedd fy holl deulu allan ddoe ar fynydd Caerffili gan mai dim ond pum munud o Gaerffili ydy Llanisien.”
Uchelgais Owain yn yr hir dymor yw cystadlu yn y gemau Olympaidd a’r Grand Tours.
“Mi hoffwn i gystadlu ar y trac yn 2016, a chystadlu yn y Tour de France. Mi fyddai’n cystadlu ym mhencampwriaeth genedlaethol y trac ar ôl y ras yma
“Uchafbwynt y ras yma beth bynnag oedd y diwrnod cyntaf. Roedd y crowds yn anhygoel ond dwi di cymryd y ras o ddiwrnod i ddiwrnod. Wnês i gwympo’r ddau ddiwrnod cyntaf ond dim byd rhy ddrwg. Mae wedi bod yn swreal seiclo efo bunch o gewri!”
Bydd y Tour of Britain yn dod i ben yfory yn Guildford, Surrey.