Heno fe fydd y Scarlets yn teithio i Glasgow, i geisio dilyn eu llwyddiant y penwythnos diwethaf pan wnaethon nhw faeddu Leinster.
Y tro diwethaf i’r timoedd yma gwrdd, Glasgow a ddaeth i’r brig wrth ennill 19 – 9.
Mi fydd Rhys Priestland yn dychwelyd i’r tîm, gyda’i gyd chwaraewr rhyngwladol Jon Davies yn ymuno â Scott Willams yng nghanol cael.
Bydd cyn-gapten Cymru Matthew Rees yn cymryd lle Ken Owens yn safle’r bachwr, a Jonathan Edwards yn cymryd lle Josh Turnbull.
Gyda dim ond un gêm wedi chwarae mae Scarlets yn eistedd yn yr ail safle tra bod Glasgow yn y degfed safle. Ond mae pawb yn gwybod am yr her sydd o flaen y Scarlets wrth iddyn nhw herio Glasgow.
‘‘Mae’n mynd i fod yn gêm anodd, gan mai dyma fydd eu gêm gyntaf yn eu cartref newydd a byddan nhw’n awyddus i daro’n ôl ar ôl colli y penwythnos diwethaf,’’ meddai Danny Wilson, hyffroddwr y blaenwyr yng ngharfan y Scarlets.
‘‘Gyda chysondeb ymysg ein blaenwyr, gallwn ryddhau’r bêl i’n cefnwyr gan wybod gall pethau cadarnhaol ddigwydd fel y gwelsom y penwythnos diwethaf. Mae yna tipyn o waith i’w wneud gyda’r sgrym, ond fe weithiodd y llinell yn wych. Aethom i fewn i’r gêm gyda’r feddylfryd o geisio rheoli’r gêm gyda’r blaenwyr, a chawsom lwyddiant gyda hynny,’’ ychwanegodd Wilson.