Mae Pennath y Gleision Phil Davies wedi cynnwys y Capten rhyngwladol Sam Warburton, cefnwr Leigh Halfpenny, yr asgellwr Alex Cuthbert a’r clo Bradley Davies yn ei garfan wrth iddyn nhw herio Caeredin ar gae Parc yr Arfau am y tro cyntaf mewn tair blynedd.

Ni chwaraeodd yr un o’r pedwar y penwythnos diwethaf ym muddugoliaeth y Gleision dros Connacht.

Ond mae Phil Davies yn ymwybdol bod her gwahanol heno.

‘‘Cafodd Caeredin dymor llwyddiannus y tymor diwethaf wrth iddyn nhw gyrraedd rownd pedwar ola’r Cwpan Heineken.  Bydd hyder yn y garfan yn uchel iawn,’’ meddai.

‘‘Mae’n wych i fod nôl ym Mharc yr Arfau, ac mae angen clod aruthrol i Peter Thomas a Richard Holland am yr holl ymdrech a wnaed i hyn ddigwydd,’’ ychwanegodd Davies.

Saith newid i’r tîm

Bydd Halfpenny, Cuthbert a Davies yn cymryd lle Dan Fish, Harry Robinson a Robin Copeland.

Bydd Rory Watts Jones yn ildio’i le i Sam Warburton.

Mi fydd Rhys Williams yn cymryd lle Andy Kyriacou yn safle’r bachwr, gyda Benoit Bourrust yn lle Tom Davies yn safle’r prop a Dafydd Hewitt yn cymryd lle Gareth Davies yn ganolwr.

Y gic gyntaf am 7.05 yn fyw ar Scrum V ar BBC2 Cymru