Mae Chris Coleman wedi galw ar Ashley ‘Jazz’ Richards i ymuno â’r garfan ar gyfer y gêm heno yn erbyn Gwlad Belg. Mi fydd Richards yn cymryd lle Joel Lynch sydd wedi cael anaf i’w ffêr.
Eraill gydag anafiadau ac yn methu’r gêm yw Craig Bellamy, Neil Taylor ac Andrew Crofts.
Robert Earnshaw a Ben Davies sy’n cymryd eu lle.
Yn enedigol o Gastell Nedd, fe fydd Ben Davies, 19 oed, am wneud yn fawr o’r cyfle wrth iddo lenwi esgidiau’r amddiffynnwr chwith Neil Taylor.
Fe sicrhaodd Davies ei safle ar ôl perfformiad cadarn yn Stadiwm Liberty y penwythnos diwethaf o flaen Chris Coleman.
Er iddo gyfaddef nad yw’n teimlo’n barod eto ar gyfer chwarae gyda’r tîm gyntaf, yr oedd yn hapus iawn â’i berfformaid yn ystod gêm gyfartal yr Elyrch yn erbyn Sunderland y penwythnos diwethaf.
Ni fydd Danny Collins ar gael gan iddo ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 32 oed er myn canolbwyntio ar ei yrfa yn Nottingham Forest.
Dyma’r garfan ar gyfer y gêm heno:
Jason Brown – Aberdeen
Boaz myhill – West Bromwich Albion
Lewis Price – Crystal Palace
Darcy Blake – Crystal Palace
James Collins – West Ham United
Chris Gunter – Reading
Ashely Richards – Abertawe
Adam Matthews – Celtic
Sam Richetts – Bolton Wanderes
Ben Davies – Abertawe
Ashley Williams – Abertawe
Joe Allen – Lerpwl
David Edwards – Wolverhampton Wanderers
Andy King – Leicester City
Aaron Ramsey – Arsenal
Jonathan Williams – Crystal Palace
Gareth Bale – Tottenham Hotspur
Robert Earnshaw – Caerdydd
Simon Church – Reading
Steve Morison – Norwich City
Hal Robson-Kanu – Reading
Sam Vokes – Burnley