Gareth Bale
Er bod gan Wlad Belg lu o sêr yn eu tîm, mae Aaron Ramsay yn dweud na fyddai’n cyfnewid yr un ohonyn nhw am Gareth Bale ar gyfer y gêm yng Nghaerdydd heno.
Mae Cymru’n cychwyn eu hymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd Brasil 2014 gyda gornest anodd yn erbyn tîm sy’n medru brolio talentau lu megis Vincent Kompany capten Manchestr City, Eden Hazard o Chelsea a Marouane Fellaini o Everton.
Gwlad Belg yw’r ffefrynnau clir, ond mae Ramsay’n credu fod gan Gymru’r chwaraewr gorau ar y cae yn Gareth Bale.
“Mae’n gallu creu cyfleon a hynny yn erbyn amddiffynnwyr gorau’r byd. Mae wedi sgorio tipyn o hat-trics, gan gynnwys un yn erbyn Inter Milan pan wnaeth e chwalu Maicon…mae [Gareth Bale] wedi sgorio llu o goliau a chreu nifer o gyfleon ac mae’n chwaraewr a allai fod yn allweddol o ran maeddu’r amddiffyn.”
Dim ffefrynnau
Er bod Gwlad Belg yn ffefrynnau i orffen yr ymgyrch ar frig Grŵp A, sy’n cynnwys Croatia, Serbia, yr Alban, Macedonia yn ogystal â Chymru, mae eu hamddiffynnwr Vincent Kompany yn bendant nad oes ffefrynnau.
“Mae’n bosib y bydd y gwahaniaeth rhwng gorffen yn gyntaf neu yn y pedwerydd safle yn fychan iawn, oherwydd bod safon y timau yn debyg iawn…mae’r dasg o’n blaenau yn anferth,” meddai Kompany.