Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi cael ei rybuddio y bydd Toulon yn gwrthod rhyddhau Gethin Jenkins neu unrhyw chwaraewr arall ar gyfer dechrau taith y Llewod, pe baent yn cyrraedd rownd derfynol y gynghrair Top 14.

Mae Warren Gatland, sydd bellach yn rheolwr ar y Llewod, wedi teithio i Ffrainc ar gyfer trafodaethau ynglŷn â rhyddhau’r chwaraewyr ar gyfer y daith i Awstralia.

Bydd y Llewod yn cychwyn eu taith drwy herio’r Barbariaid ar 1 Mehefin yn Hong Kong, yr un dydd a rownd derfynol y Top 14.

‘‘Pe bai yn chwarae yn y rownd derfynol, fe fydd yn cael gadael y diwrnod wedyn,  sef 2 Mehefin.  Ni fyddwn yn talu chwaraewr sy’n gorfod mynd i chwarae dros y Llewod ar yr adeg mwyaf pwysig o’n tymor.

“Hefyd nid oes cymal penodol yn ei gytundeb ynglŷn â’r peth,’’ meddai Bernard Laporte, hyfforddwr Toulon wrth L’Equipe.