Gemau Paralympaidd
Mae Beverley Jones wedi cipio’r fedal efydd yn y Stadiwm Olympaidd heddiw.

Fe wnaeth Beverley Jones, 37 oed, daflu’r ddisgen 30.99 medr gan gymryd y fedel efydd F37.

Fe enillodd y fedal efydd yn ras 100 medr yn Ngemau’r Gymanwlad yn 2006, ac mae hefyd yn chwarae criced i Gymru.

Roedd Beverley Jones, sydd â pharlys yr ymennydd, wedi gorffen yn seithfed wrth daflu’r maen ddoe.